Take Me Too

Cynllunydd Teithiau

Mae Ewch â Mi Hefyd! (Take Me Too!) yn cysylltu rhwng pobl sydd angen cludiant a rhywun sy’n mynd yr un ffordd, ac sy’n falch o roi lifft iddynt. Gyda’n gilydd gallwn helpu cysylltu Sir Benfro!

Mewngofnodwch Ymunwch

Manteision defnyddio Ewch â Mi Hefyd!

Mae “Take Me Too!” yn gwneud y broses o rannu lifft yn hawdd ac yn ddiogel i chi. Edrychwch ar rai o’r prif resymau dros ddefnyddio ein system.

Yn Ddiogel

Mae ein meddalwedd yn defnyddio data diogel o gronfa ddata DVLA i ddilysu trwyddedau gyrwyr. Rydym bob amser yn diogelu eich data personol.

Hawdd ei ddefnyddio

Mae ein system wedi’i dylunio gyda chi mewn golwg, sy’n golygu y gallwch chi gofrestru’n rhad ac am ddim a chael eich paru’n hawdd â phobl eraill i rannu lifftiau.

Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda

Rydych chi’n gwybod eich bod yn helpu rhywun ac yn cyfrannu at wella’r amgylchedd trwy ddod at eich gilydd a gwneud eich cymuned yn lle gwell.

Cyfeillgar

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd a gwneud cyfeillion newydd – mae pobl sy’n rhannu taith, fel arfer, yn bobl gyfeillgar, gymdogol.

Ymunwch

Mae ein cofrestriad syml yn eich galluogi i gofrestru fel Gyrrwr neu Deithiwr

Paru

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch rannu teithiau a pharu gyda defnyddwyr eraill.

Talu

Bydd Ewch â Mi Hefyd yn rhoi awgrym i ddefnyddwyr o faint i gyfrannu at gost pob taith.

Taith Ddiogel

Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth. Gwelwch Tudalen Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau diogelwch synnwyr cyffredin.

Adolygu

Gallwch adolygu teithiau ar ôl eu gorffen a dweud eich barn am ddefnyddwyr eraill i helpu eraill.

I ddod yn fuan:
Ap “Take Me Too!”

Ein nodwedd diogelwch unigryw “Rwyf wedi cyrraedd” a ffordd ddiogel o gadw golwg ar eich teithiau.